Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Chwefror 2021
Amser:
13.00 -
16.58
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11086
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Delyth Jewell AS Laura Anne Jones AS Mandy Jones AS |
Tystion: |
Bob Mason, North Wales Fire and Rescue Service Sion Slaymaker, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Owen Jayne, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Paul Edwards, NHBC Peter Richards, LABC, Cymru Andrew Thomas, RICS Jason Clarke, Warwick Estates Nigel Glen, Association of Residential Managing Agents Mark Snelling, ARMA |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Ail Glerc) Naomi Stocks (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Huw Irranca-Davies AS.
1.2. Cyhoeddodd Mandy Jones AS a Laura Anne Jones AS fuddiannau perthnasol.
1.3. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.4. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad): sesiwn dystiolaeth 1
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
· Owen Jayne, Rheolwr Grŵp, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
· Siôn Slaymaker, Rheolwr Grŵp, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
· Bob Mason, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
3 Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad): sesiwn dystiolaeth 2
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
· Paul Edwards, Uwch Gyfarwyddwr Rhanbarthol, Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC)
· Peter Richards, Cadeirydd, Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol Cymru
· Andrew Thomas, Uwch-swyddog Rheoli Adeiladau, y Gweithgor Diogelwch Tân, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
4 Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad): sesiwn dystiolaeth 3
4.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Jason Clarke, Pennaeth Rheoli Risg, Warwick Estates
· Nigel Glen, Prif Weithredwr, Cymdeithas Asiantaethau Rheoli Preswyl (ARMA)
· Mark Snelling, Cynghorydd Iechyd, Diogelwch a Thân, y Gymdeithas Asiantaethau Rheoli Preswyl (ARMA)
5 Papurau i’w nodi
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn
5.1.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn.
5.2 Adroddiad gan Sefydliad Bevan "Different experiences of poverty in Winter 2020" o ran effaith COVID-19
5.2.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan Sefydliad Bevan ar brofiadau gwahanol o dlodi yn ystod Gaeaf 2020 o ran effaith COVID-19.
5.3 Adroddiad gan y Groes Goch Brydeinig ar "Y flwyddyn hiraf" o ran effaith COVID-19
5.3.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Groes Goch Brydeinig ar "Y flwyddyn hiraf" o ran effaith COVID-19.
5.4 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn cysylltiad ag effaith COVID-19 a chysgu ar y stryd
5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas ag effaith COVID-19 a chysgu ar y stryd.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 4 Mawrth 2021
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4.
8 Trafod adroddiad gwaddol y Pwyllgor
8.1. Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad gwaddol.